A Good Job
Cyngres yr Undebau Llafur.
Gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
Pan ddaeth TUC Cymru atom a gofyn inni gynhyrchu eu ffilm Congress ar gyfer Mai 2022, aethom amdani’n syth. Rydyn ni wir yn malio am eu neges graidd; sef bod pawb yng Nghymru yn haeddu swydd o ansawdd da – a hynny’n fwy nag erioed erbyn hyn.
Fe wnaethon ni ateb y briff a datblygu syniad newydd, gan weithio ar yr holl elfennau cynhyrchu o’r datblygiad creadigol hyd at y cynnyrch terfynol.
Prif nod y ffilm oedd ymestyn y tu hwnt i aelodau’r undeb gyda neges sy’n gwneud i bobl deimlo’n bositif ynglŷn ag undeb llafur. Yn benodol, roedd angen apelio at bobl ifanc oedran gwaith yng Nghymru, a chynhyrchu rhywbeth a oedd yn siarad â’r ddemograffeg ehangach hefyd – gwleidyddion, y cyfryngau a’r cyhoedd, sy’n gallu cydnabod ac uniaethu â pholisïau’r TUC.
Fel cwmni cynhyrchu fideo o Gymru a Chaerdydd y mae ei werthoedd yn cyd-fynd yn agos â rhai’r undebau, roedd y prosiect yn taro tant gyda ni o’r cychwyn cyntaf. Ein syniad oedd tynnu ar gryfderau ffilmiau blaenorol y TUC ac ychwanegu atynt, gan gynhyrchu ffilm chwaethus ac egnïol a oedd yn ennyn diddordeb gwylwyr mewn ffordd uniongyrchol.
Aethom ati’n fwriadol i gynnull cast cryf o saith actor rhwng 18 a 35 oed, gan sicrhau bod y cast yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, gan ystyried Iaith, Rhywedd, Rhywioldeb, Ethnigrwydd a Gallu. Roedd gan ein hactorion egni grymus, hyderus, personol ac uniongyrchol, a chafwyd pob math o gymeriadau mewn rolau amrywiol, o yrwyr bws i reidwyr danfon nwyddau, o ddarlithwyr i beirianwyr. Y syniad drwyddi draw oedd siarad yn onest â chynulleidfa eang.
I danlinellu hyn, defnyddiwyd syniad lle’r oedd pob cymeriad yn adrodd darnau pytiog i’r camera, gan greu datganiad rhyng-gysylltiedig maes o law. Erbyn diwedd y ffilm, mae ein cymeriadau i gyd wedi ateb y cwestiwn “What Makes A Good Job?”
Roedd ein cleient yn bles iawn, ac yn ogystal â’i rhyddhau ar-lein, dangoswyd y ffilm yng Nghyngres Flynyddol Aelodau Undeb y TUC yng Nghymru.