Arlo Parks: Live At WMC
BBC.
Ffilm a Theledu
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Gŵyl y Llais, neu LLAIS, ers sawl blwyddyn – a doedd 2021 ddim gwahanol… heblaw am y ffaith ei fod ar-lein, diolch i Covid!
Rydyn ni wedi bod yn ffilmio sesiynau byw ers i ni gychwyn fel cwmni, ond roedd y pandemig a’r cynnydd mewn sesiynau byw ar-lein, wedi gwneud i ni ailystyried sut gallen ni wella’r broses. Roedden ni eisiau rhoi naws wirioneddol ‘fyw’ a phersonol i’n sesiynau a’r ateb amlwg oedd dechrau ffilmio gyda’n criw camera wedi’u cysylltu â desg olygu byw.
Yn ogystal â rhoi teimlad byw newydd i’n sesiynau, roedd yn caniatáu i’n criw camera feddwl a ffilmio mewn ffyrdd newydd, gan wneud y cyfan yn brofiad mwy byrfyfyr. Roedd cyfathrebu â chlustffonau hefyd yn helpu i greu ymdeimlad cryfach o steil, gyda golygydd byw yn gallu gwneud penderfyniadau mwy creadigol. Roedd hefyd yn gwneud ein llif gwaith yn fwy effeithlon; roedd gennym amserlen dda, parod i olygu, yn hytrach na’n bod yn gorfod cysoni a thorri lluniau nes ymlaen.
Ar gyfer Arlo Parks, roedden ni wir eisiau arddangos lefel arall o waith byw, gan integreiddio newidiadau i oleuadau byw i gyd-fynd ag emosiwn ac egni pob cân. Law yn llaw â chefnlen ddramatig Canolfan y Mileniwm, roedden ni’n gwybod y gallen ni greu rhywbeth gwych a diddanu’r cynulleidfaoedd gartref, a oedd yn hiraethu am gerddoriaeth wedi blwyddyn o ddim byd.
Bu’n Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth yn cydweithio’n agos â’r technegydd goleuo i fynd drwy bob cân; gan ddechrau’n gynnil a meddal gyda Hurt, cyn symud i greu naws mwy tywyll a theimladwy gyda Black Dog, a gorffen gyda phelydrau o olau’n pefrio oddi ar belen ddisgo ar gyfer ffync araf Cola.
“The project was a highlight of the festival. On Par are conscientious producers and made the collaboration a real pleasure. Particularly skilled at bringing together the right team, outlining their creative vision to us and Arlo’s management ahead of a very tight schedule. They were professional, skilled and relaxed.”
Wales Millennium Centre
Roedd hi’n bleser gweithio gydag Arlo a’r band, a oedd yn dal i ennill eu plwyf ar y pryd. Roedden nhw’n chwarae i glic a olygai ein bod ni’n gallu recordio dwy sesiwn lawn yn fyw, ac yn y broses ôl-gynhyrchu wedyn, roedd modd i ni dorri rhwng y ddwy fel bo’r angen wrth barhau â’r naws ‘byw’. Ar ben hynny, fe waethon ni gyfweld ag Arlo eu hunain, er mwyn cael seibiannau byrion gydol y sesiwn.
Rydyn ni wedi gweithio gyda FOV ers i fywyd ddychwelyd i normal, gan ffilmio’r ŵyl yn y cnawd eto, gydag artistiaid fel John Cale, Gwenno, a Hot Chip.