ATTO
Austin Cycles.
Gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
Ar dy feic, Brompton – mae ‘na feic plygadwy arall ar y lôn…
Cysylltodd Branding & Web Design Agency Limegreentangerine â ni i gynhyrchu cynnwys ar gyfer Austin Cycles a oedd angen cyfres o gynnwys cymdeithasol ar gyfer eu beic plygu ffibr carbon anhygoel: The Atto. Roedden nhw eisiau dangos pa mor ysgafn, hwyliog a chyflym oedd o!
Roedd Llundain dan ystyriaeth fel lleoliad, ond fe wnaethon ni esbonio wrth Austin Cycles fod Caerdydd yn cynnig llu o leoliadau amrywiol cyfagos, gan olygu y gallen ni wneud mwy o waith ffilmio mewn cyfnod byrrach. Gydag On Par yn gwmni cynhyrchu yng Nghaerdydd, mantais arall yw ein bod ni’n cael cyfraddau cystadleuol iawn ar gyfer saethu mewn mannau cyhoeddus – ac weithiau’n cael gwneud hynny’n rhad ac am ddim.
O ran arddull a’r dull saethu, roedd angen rhywfaint o symudiadau bywiog deinamig arnom yn y fideos i gyfleu’r cynnyrch, felly fe gysyllton ni â Mighty Sky, tîm sefydlogi camera gorau Cymru, a ddarparodd gar camera a chamera bygi.
Felly ar ddiwrnod heulog o Dachwedd (yn ffodus i ni!) fe aethon ni ati i saethu lluniau hynod lyfn yn cynnwys rhai modelau rhagorol, a helpodd i greu’r naws hwyliog oedd gennym ni mewn golwg.
Ein lleoliad mwyaf trawiadol oedd Morglawdd Caerdydd ar fachlud haul: sydd ar gau i gerbydau modur fel arfer, ond fe wnaethon ni drefnu i’r car camera gael mynediad er mwyn dal y golygfeydd arbennig sy’n ymddangos yn yr hysbys. Maen nhw wir yn dangos pa mor chwim yw’r beiciau yma.