Jim Roberts : Legends of Welsh Sport
BBC Cymru Wales
Ffilm a Theledu
O wely ysbyty i bodiwm Paralympaidd.
Pan ddaeth BBC Wales atom yn chwilio am bynciau newydd ar gyfer eu cyfres Legends of Welsh Sport roedd yr ateb gennym, sef yr athletwr Rygbi Cadair Olwyn Paralympaidd Jim Roberts.
Yn y stori bywyd go iawn hon am ddioddefaint unigolyn, cymerodd bywyd Jim dro annisgwyl pan gollodd ei ddwy goes yn sgil meningitis yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol. Wrth oresgyn y golled hon, cyfnod o iselder a hyd yn oed ataliad y galon a fu bron yn angheuol, daeth Jim yn ei ôl gan frwydro – a dechrau chwarae Rygbi Cadair Olwyn a llwyddo i ennill lle yn nhîm Prydain Fawr.
Dros y blynyddoedd daeth Jim yn sbardun yn y tîm, gan feithrin agwedd newydd a rhoi’r tîm ar ben ffordd i gêm derfynol Baralympaidd yng ngemau Tokyo 2021. Does yr un tîm Ewropeaidd wedi llwyddo i ennill medal yn y Gemau Paralympaidd erioed, ac mae Tîm GB yn y gêm derfynol yn awr yn erbyn goreuon y gamp – UDA. A all Jim a’r tîm gydweithio i greu hanes? Neu a fydd pwysau eu gêm Baralympaidd derfynol gyntaf yn drech na nhw?
Mae’r ffilm orffenedig yn plethu cyfweliadau, lluniau archif a sefyllfaoedd wedi’u hail-greu i arwain y gynulleidfa’n gelfydd trwy flynyddoedd o fywyd Jim hyd at y gêm Baralympaidd dyngedfennol honno. Fel rhan o’r gwaith o gynhyrchu’r ffilm, rhoddwyd blaenoriaeth i safbwyntiau amrywiol, gan weithio gyda phobl dalentog yn y gymuned anabl fel cynhyrchwyr cynorthwyol ac ymchwilwyr i sicrhau bod ein harferion cynhyrchu a’n penderfyniadau wrth adrodd y stori’n cynrychioli ac yn cynnwys pobl ag anableddau yn y ffordd orau.