Gwna wahaniaeth
Gofalwn Cymru.
Hysbyseb deledu
Mae gan weithiwr cymdeithasol y grym i helpu cymaint o bobl mewn cymaint o wahanol ffyrdd a dyna’n union yr oedd angen i ni ei gyfleu yn yr hysbyseb deledu hon ar gyfer Gofalwn Cymru.
Daeth Golley Slater, Asiantaeth Cyfathrebu Marchnata o Gaerdydd, atom gyda sgript a oedd yn dangos rhai o’r ffyrdd niferus y gall gweithiwr cymdeithasol wneud gwahaniaeth. Ein gwaith ni oedd dod â hynny’n fyw – gydag un amod: doedd gennym ni ddim amser cynhyrchu i symud i’r holl leoliadau gwahanol roedd angen i ni ymweld â nhw. Felly, yn lle mynd i’r lleoliadau, fe wnaethon ni benderfynu y bydden ni’n dod â’r lleoliadau aton ni.
Wrth ymchwilio i fyd Cynhyrchu Rhithwir am y tro cyntaf, fe ddefnyddion ni daflunydd cefn a phlatiau (cefndiroedd) a ffilmiwyd gan griw bach cyn y prif ddiwrnod saethu. Hefyd, crëwyd sgan 3D o’r lleoliadau a’u cyflwyno i raglen Blender lle’r oedd modd addasu golau pob amgylchedd a’u haddasu i gyd-fynd â’r naws oedd gennym ni mewn golwg.
“Trwy ddod â syniadau deinamig i’r bwrdd a’n cyflwyno i ffilmio rhithwir, roedden ni’n gwybod ein bod ni mewn dwylo da.”
Golley Slater
Drwy gyfuno’r platiau a’r tafluniad, perfformiad gwych gan ein hactores, goleuo heb ei ail gan Mark Holownia o Firebug Lighting, a symudiadau camera llyfn, crëwyd fideo un siot wedi’i goreograffu’n ddeheuig.
Roedd y dull hwn hefyd yn sicrhau bod ein hôl troed carbon mor fach â phosib, sy’n flaenoriaeth i’n holl gynyrchiadau wrth symud ymlaen. Roedd hefyd yn golygu y gallen ni aros yn sych a chynnes mewn stiwdio glyd.