Born Deaf Raised Hearing
BBC.
Ffilm a Theledu
Ydy hi’n rhy hwyr i’r dyn Byddar hwn yn ei 40au gofleidio ei hunaniaeth Fyddar?
Yn dilyn ein ffilm fer gydweithredol o fri, Louder Is Not Always Clearer roedd yr haearn yn dal yn boeth ac roedden ni’n gwybod ein bod am barhau i weithio gyda’r actor Byddar, Jonny Cotsen, ac ymchwilio’n ddyfnach i’w stori bersonol.
Dechreuodd y darnau ffitio i’w lle pan ofynnodd y BBC am syniadau ar gyfer eu llinyn Our Lives. Dyma’r 6ed gyfres bellach ac mae’r fformat yn cynnwys rhaglenni dogfen 30 munud untro sy’n ymchwilio i fywydau pobl ledled gwledydd Prydain.
Dros blatiad o omlet yng nghaffi gorau’r Sblot, The Imperial Cafe, buom yn trin a thrafod syniad uchelgeisiol gyda Jonny a fyddai’n gyfuniad o ddrama sy’n ail-greu eiliadau hanfodol o’i blentyndod, gydag eiliadau arsylwadol wedi’u ffilmio yn ei fywyd presennol. Wrth iddo ofyn y cwestiwn, a all fod yn rhan o’r byd clyw a’r byd byddar? Roedd y BBC wrth eu bodd gyda’r syniad ac fe gafodd ei gomisiynu.
Roedd gennym ddwy her gychwynnol: y cyntaf oedd ennill ymddiriedaeth mam Jonny. Roedd hi’n teimlo y gallai gael ei gweld mewn golau negyddol, gan nad oedd hi’n gwybod sut i roi’r gefnogaeth orau i Jonny yn yr 1980au. Cawsom sgyrsiau hir gyda hi am sut y byddem yn goresgyn hyn: roeddem am roi’r cyfle iddi ddweud wrthym pa wybodaeth oedd ganddi bryd hynny a sut wnaeth hyn lywio ei phenderfyniadau. Roedd y sgyrsiau’n bositif iawn, a chyn hir, denwyd mam Jonny at y syniad. Yn wir, datblygodd yr olygfa rhwng Jonny a’i fam i fod gyda’r cryfaf, gan ddarparu naratif emosiynol y presennol i ni.
Yr ail her oedd castio plentyn Byddar oedd yn debyg i Jonny! Fel mae’n digwydd, doedd hi ddim yn fawr o her wedi’r cwbl: un e-bost at yr anhygoel Deaf Talent Collective a chawsom ymateb ar unwaith gyda llun o Alan, actor ifanc dawnus sy’n chwarae rhan y Jonny ifanc yn y golygfeydd ail-greu dramatig.
“Fe wnaeth y ffilmio sbarduno llawer o atgofion. Roedd On Par yn gwybod sut i fy amddiffyn a gwneud yn siŵr fy mod i’n teimlo’n gartrefol o flaen y camera. Mae’r ymateb ers darlledu’r ffilm wedi bod yn anhygoel.”
Jonny Cotsen
Roedd y stiwdio olygu yn lle hwyliog dros ben i chwarae a saernïo’r stori. Gan weithio’n agos gyda dau uwch-gynhyrchydd, Llinos Griffin Williams ac Iwan England, yn ogystal â Chomisiynydd y BBC, Christina Macaulay, roedd gennym gefnogaeth aruthrol o’r dechrau’n deg.
Cafodd y ffilm ei darlledu gydag is-deitlau ar y sgrin a disgrifiadau sain fel ei bod yn hygyrch i gynulleidfaoedd Byddar a thrwm eu clyw.
Llwyddodd y ffilm i ddenu 1.3 miliwn o wylwyr a sylw mewn llawer o bapurau newydd cenedlaethol, ac fe gafodd Jonny ei holi ar BBC Radio 4. Mae ymateb y gymuned Fyddar wedi bod yn gadarnhaol dros ben, a Jonny wedi’i wahodd i nifer o ddigwyddiadau mawreddog i siarad ar ran y gymuned.