Yn helpu i adeiladu busnes
Busnes Cymru
Hysbyseb deledu
Un recordiad, un lleoliad, un actor. Mae mor syml ag y gall fod, on’d yw e’? Wel, bron.
Ar gyfer yr hysbyseb teledu hwn i Busnes Cymru, roedd ein ffrindiau yn SBW Advertising eisiau defnyddio clonau i ddangos y rolau niferus y gallai fod yn rhaid i berchennog busnes eu cyflawni wrth ddechrau busnes, ac roedden nhw eisiau gwybod a allem ni wneud i’r clonau hynny ddigwydd. Gyda gwyddoniaeth a moeseg clonio go iawn yn dipyn o daten boeth, wnaethon ni benderfynu efallai mai byd VFX oedd y dull gorau.
Mae creu clôn yn ddefod newid byd bron iawn i unrhyw blentyn sy’n dechrau ymddiddori mewn VFX, ac mae’n hawdd iawn ei wneud os ydych chi’n dilyn dwy reol: Peidiwch â symud y camera, a pheidiwch â gadael i’r clonau orgyffwrdd. Wel, dydyn ni ddim yn blant mwyach, felly wnaethon ni benderfynu torri’r naill reol a’r llall.
Un saethiad di-dor lle mae ein camera’n teithio o lun agos tu hwnt, yr holl ffordd i saethiad llydan, hyn oll tra bo’n cloniau yn ymddangos ac yn gadael ac yn gorgyffwrdd heb ystyried y trueiniaid sy’n gorfod rhoi’r cyfan at ei gilydd wrth olygu (sef ni, ni yw’r trueiniaid).
Felly, sut ydych chi’n gwneud symudiad camera fel yna a pheidio dinistrio unrhyw siawns o allu poblogi’r ffrâm gyda chlonau’n llwyr? Yr ateb yw robot. Na, nid dyma ddechrau stori ddystopaidd lle mae peiriannau’n cymryd drosodd (ddim hyd yn hyn o leiaf); y gwir yw bod hwn yn ddarn clyfar o dechnoleg sy’n caniatáu i ni ailadrodd symudiad camera drosodd a throsodd yn berffaith i’r picsel. Wrth ymgymryd â’r rôl hon roedd ein ffrindiau yn Mr MoCo, a ddaeth â’u braich Bolt ddyfodolaidd, a oedd yn gallu symud camera 8 metr yr eiliad… neu yn yr achos hwn yn ymdroelli’n ôl yn araf tua 0.2 metr yr eiliad.
Fe dreulion ni gyfnod sylweddol yn rhoi’r offer yn ei le, yn gosod y set a’r goleuo; oherwydd unwaith y dechreuon ni ffilmio doedd dim modd i ddim byd yn y ffrâm symud hyd yn oed modfedd (ac eithrio ein talent hyfryd wrth gwrs). Gyda’n symudiad camera wedi sefydlu, y cyfan oedd yn weddill oedd ei ailadrodd drosodd a throsodd gyda’n talent mewn gwahanol safleoedd yn y swyddfa. Yn y pen draw, dim ond awr neu ddwy gymerodd y broses ffilmio go iawn, sy’n profi pa mor bwysig yw cynllunio a pharatoi ar gyfer saethu o’r math hwn. Dadosod cyflym ac roedd pawb yn ôl adref mewn pryd i gael te.
Ychwanegwch droslais dwyieithog, treulio tipyn o amser yn masgio a cherddoriaeth wefreiddiol ac mae gennych hysbyseb deledu sy’n barod ar gyfer y sgrin.