Celso
Channel 4.
Ffilm a Theledu
Weithiau, rydych chi’n gwneud prosiect oherwydd bod y stori’n werth ei hadrodd – a dyna’n union ddigwyddodd yn achos y rhaglen ddogfen fer hon. Wrth ymchwilio i bobl anhygoel yma yng Nghymru, fe ddaethon ni ar draws Celso Fonseca o Bortiwgal yn wreiddiol.
Ar ôl dioddef plentyndod trawmatig a sawl ymosodiad corfforol yn ddiweddarach yn ei fywyd a arweiniodd at ddiagnosis PTSD, cafodd Celso ei hun yn ddigartref ar strydoedd Caerdydd. Er gwaethaf hyn, llwyddodd Celso i ganfod y dewrder a’r gefnogaeth i guro sawl record seiclo pellter hir.
A ninnau’n ysu i greu dogfen o’r radd flaenaf yn arddull hysbyseb Adidas neu Nike, dyma ni’n troi at gwmni rhentu camera Cinewest o Fryste i ofyn am eu help. Cafwyd diwrnod cynhyrchu llawn dop, a ninnau’n rhuthro o amgylch de Cymru a Chaerdydd yn ffilmio Celso ar ei feic. Ar ddiwrnod arall, fe’n croesawodd ni i’w gartref lle buom yn ffilmio ei drefn feunyddiol – y cyfan yn canolbwyntio ar seiclo a hyfforddi. Fe wnaethon ni gyfuno hyn i gyd gyda chyfweliad di-flewyn-ar-dafod hynod bwerus.
Yn fuan wedyn fe gawson ni gyfle i gyflwyno’r syniad i ITN ar gyfer rhaglen newyddion Channel 4. Cafodd y syniad ei dderbyn ar sail ein ffilm a stori bwerus Celso, a darlledwyd y ffilm ar newyddion Channel 4, gyda bron i hanner miliwn o bobl yn ei gwylio.