Straeon myfyrwyr creadigol
Prifysgol De Cymru.
Gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
Cawsom dasg gan Brifysgol De Cymru i greu llond llaw o gipluniau byr, dogfennol eu naws o’r myfyrwyr creadigol er mwyn helpu i hyrwyddo cyrsiau celfyddydol y Brifysgol.
Nod y straeon hyn oedd denu myfyrwyr newydd sy’n chwilio am raddau celfyddydol i Brifysgol De Cymru trwy gyfrwng ystod o ffilmiau bach cyflym, trawiadol a chyffrous. Roedden ni eisiau ymdeimlad cryf o apelio at bobl ifanc, felly fe roddon ni ei hesthetig a’i harddull unigryw ei hun i bob ffilm er mwyn helpu i ddenu pob math o ddarpar fyfyrwyr, a hyrwyddo’r ystod o opsiynau sydd ar gael yn y Brifysgol. Fe wnaethon ni glymu’r cyfan ynghyd â strwythur deniadol a thechnegau camera beiddgar a chreadigol.
Ar gyfer y ffilm ffasiwn, roedden ni’n gwybod ein bod ni eisiau teimlad golygyddol ffasiynol iawn i gyd-fynd â gwaith y myfyriwr a ddewiswyd, Joseph Thomas.
“Creadigol, cydweithredol, cwl – llwyddodd On Par i daro’r hoelen ar ei phen… roedd hi’n bleser gweithio gyda nhw.”
Prifysgol De Cymru
Ar ôl cyfarfod â Joseph, fe wnaethon ni greu sgript ffilmio o’r hyn a rannodd gyda ni. Bu’r sgript o gymorth i ni yn y cyfweliad, gan greu’r strwythur ar gyfer elfennau’r ffilm. Roedden ni am ddathlu gwahaniaethau Joseff, gan ei fod wedi bod yn onest gyda ni am ei rywioldeb, ei fagwraeth a’i awtistiaeth.
Roedden ni’n gwybod bod angen i ni gyfleu ei fywyd gyda chymuned cwiar Caerdydd, felly fe benderfynon ni ei ffilmio’n gwisgo ei ffrind agos – a’r frenhines ddrag adnabyddus – Jolene Dover, yn ogystal â’i helpu yn y clwb hoyw lleol. Hefyd, roedden ni am gyfleu ei brofiad gydag awtistiaeth mewn ffordd mor gadarnhaol â phosib; i’w ddangos fel grym sydd wedi helpu gyda’i ddycnwch a’i ddyfalbarhad yn y diwydiant ffasiwn.
Wrth ffilmio, defnyddiwyd amrywiaeth o gamerâu a lensys gwahanol; gyda ‘photo bursts’, lluniau, camcorder, a lens stilio ar gyfer macro siots agos ar hyd a lled y Brifysgol a Chaerdydd, i ddangos yr hyn sydd gan Brifysgol De Cymru i’w gynnig, yn ogystal â’r ddinas ei hun. Buom yn chwarae gyda goleuadau strôb a chyferbynnedd uchel, gan gyfosod hyn â’r goleuadau meddal naturiol ar gyfer yr adrannau dogfennol arsylwadol.
Yn y stiwdio olygu, roedd modd arbrofi go iawn wedyn; gan blethu darnau creadigol o archif, trawsnewidiadau ffilmig, a graddio monocrom. Rhoddwyd cryn bwyslais a sylw i gynllun sain y ffilmiau hyn hefyd, gan helpu i wella’r naid mewn amser a’r newid lleoliad, gan ategu’r defnydd o gyfryngau cymysg.
Mae’r pedair ffilm yn gweithio’n ddi-dor fel casgliad; maen nhw’n llwyddo i hysbysebu Prifysgol De Cymru fel prifysgol greadigol amlddisgyblaethol, yn ogystal ag arddangos galluoedd amrywiol On Par.