Uchafbwyntiau’r Wyl
Gwyl Swn.
Gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
Dyma brif ŵyl gerddorol canol dinas Caerdydd a Chymru ers dros ddegawd ac mae ein perthynas ni â hi wedi bod yr un mor gyson. Gydol ein cyfnod fel cwmni cynhyrchu fideo, rydyn ni wedi cynhyrchu uchafbwyntiau, sesiynau byw a hyd yn oed raglen ddogfen a enwebwyd am BAFTA Cymru ar gyfer S4C ynglŷn â’r ŵyl ac ar gyfer yr ŵyl.
“Rydyn ni’n troi at On Par bob tro rydyn ni angen unrhyw gynnwys fideo. Maen nhw’n mynd i’r afael â phob prosiect yn effeithlon, heb unrhyw ffws na ffwdan. Wrth weithio mewn tîm bach a phrysur, gallwn ymddiried yn On Par gyda phrosiectau mawr, gan wybod fod y prosiect mewn dwylo da, creadigol. Maen nhw’n cyflogi pobl hyfryd a chyfeillgar hefyd.”
Gwyl Swn
Yn 2022 gofynnwyd i ni unwaith eto gynhyrchu ffilm uchafbwyntiau’r ŵyl.
Y briff… ffilm fer, fachog, egnïol yn cynnwys bandiau a pherfformiadau Sŵn yn eu holl ogoniant amrywiol. Gydag amserlen lawn dop, aeth y tîm ati gyda chasgliad o gamerâu i ddal cymaint â phosib o’r holl firi.
Y nod oedd saethu’n arbrofol, gan ddefnyddio hidlyddion crisial, ‘photo bursts’ a chamcorder. Roedd y delweddau ymarferol a diddorol hyn yn cynnig gwaith ffilmio cyffrous ac yn golygu y gallen ni gyfleu egni a bwrlwm byw yr hyn roedden ni’n ei weld ag effeithiau arbennig.
Ar gyfer gwaith golygu Sŵn 22, roedd seiniau swnllyd Payday gan Minas, rapiwr sy’n prysur gwneud enw iddo’i hun o’r brifddinas, yn drac sain perffaith. Roedd y drymiau diwydiannol yn cyd-fynd â’r golygfeydd byrion bachog a’r effeithiau arbennig, gan gyfleu naws DIY yr ŵyl i’r dim.
Rhyddhawyd y ffilm ar adeg rhyddhau’r tocynnau ar gyfer Sŵn 23.