Uchafbwyntiau’r Ŵyl
Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
Rydyn ni’n ffans o Ŵyl y Dyn Gwyrdd ers tro byd – ac yn meddwl mai dyma ŵyl gerddorol orau Cymru ers 20 mlynedd. Felly pan wnaethon nhw ofyn i ni weithio gyda nhw ar greu ffilmiau Uchafbwyntiau’r Ŵyl a Sesiwn Fyw yn 2018, dyma fachu ar y cyfle. Ni yw eu cwmni cynhyrchu fideos byth ers hynny.
Bob blwyddyn rydyn ni’n cyfuno ein tîm mewnol a llond gwlad o weithwyr llawrydd talentog, gan greu tîm mawr sy’n rhoi sylw i brif elfennau’r ŵyl.
“Maen nhw’n ateb pob briff gydag egni ffres, creadigrwydd a brwdfrydedd heintus ac yn meithrin perthynas waith agos a chydweithredol.”
Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Rydyn ni’n rhannu’n ddau dîm: mae’r criw cyntaf yn saethu’r ffilm uchafbwyntiau. Ar yr olwg gyntaf, efallai ei bod hi’n edrych fel pe baem ni’n anfon cwpl o weithredwyr camera mas a gadael iddyn nhw saethu fel y mynnon nhw. Y gwir amdani yw bod y cyfan yn cael ei reoli’n ofalus er mwyn cyfleu a chrynhoi digwyddiadau mwyaf poblogaidd y Dyn Gwyrdd o fewn amserlen hynod dynn. Yr her bob tro yw gwneud yn siŵr ein bod yn saethu digon o olygfeydd o ysblander yr ŵyl a’r cyffiniau wrth i’r haul dywynnu – tipyn o gamp yng nghanol y Bannau ar adegau!
Mae’r ail dîm yn saethu Sesiynau’r Dyn Gwyrdd, cyfres o 18 a mwy o berfformiadau byw sy’n cael eu ffilmio dros y penwythnos ym Mhabell Siop Recordiau’r Dyn Gwyrdd. Y gigs bach hyn, sydd weithiau’n gyfrinachol, yw lle mae hufen yr ŵyl yn chwarae sioeau byr, agos-atoch. Rydyn ni’n saethu gyda dau weithredydd camera, sy’n cael eu cyfarwyddo gan olygydd byw drwy’r system gyfathrebu. Mae sain fyw yn cael ei dal gan y peiriannydd sain a’r cynhyrchydd o fri Steffan Pringle, sy’n cymysgu a chreu prif gopi o 18 o draciau wedi’r ŵyl. Cymerwch gip ar sesiwn Wet Leg sydd wedi denu bron i 1,000,000 o wylwyr ar YouTube.
Mae’r dyddiau wedi’r ŵyl yn gweld ein golygyddion wrthi fel lladd nadredd yn llunio’r ffilm uchafbwyntiau cychwynnol mewn ychydig ddyddiau, er mwyn i’r Dyn Gwyrdd rannu ffrwyth eu gwaith gyda mynychwyr yr ŵyl a’u dilynwyr di-ri ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gweld yr ymatebion gan bobl ar y cyfryngau cymdeithasol wastad yn gwneud i ni deimlo’n emosiynol.
Rydyn ni’n treulio’r ychydig ddyddiau nesaf yn golygu’r sesiynau di-ri; er eu bod wedi’u golygu’n fyw yn y fan a’r lle, bydd angen ail-dorri ambell siot cyn rhoi sglein go iawn i bob sesiwn. Unwaith y bydd y gwaith cymysgu a golygu wedi’i orffen, rydyn ni’n cyflenwi detholiad o glipiau i’r Dyn Gwyrdd ac i’n cyfryngau cymdeithasol ninnau hefyd, i’w rhannu’n gyson â theulu eiddgar y Dyn Gwyrdd.