Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth
Gweithredu ar Hinsawdd Cymru
Hysbyseb deledu
On Par a chynnwys sy’n ymwybodol o’r hinsawdd. Cyfuniad perffaith.
Nid yw’n gyfrinach ein bod ni yn On Par yn poeni am y blaned a’n heffaith arni, yn enwedig o ran cynhyrchu. Felly pan ddaeth ein ffrindiau yn SBW atom i ofyn am gyfres o hysbysebion teledu ar gyfer Llywodraeth Cymru a’u hymgyrch Gweithredu ar Newid Hinsawdd, roedd yn gwneud synnwyr i ni.
Mae creu hysbyseb deledu i hysbysu cynulleidfaoedd am y ffyrdd i helpu’r blaned yn un peth, ond beth am gymhwyso’r un broses feddwl i gynhyrchu’r hysbyseb ei hun? Yn On Par aethom ati i wneud pob cynhyrchiad yn garbon niwtral neu garbon positif, gan gynnwys arferion sy’n ymwybodol o’r hinsawdd yn ein ffyrdd o weithio wrth o’r cychwyn cyntaf – nid fel rhywbeth i’w ystyried yn ddiweddarach yn unig.
Wrth ymdrin â phrosiect mor fawr, a oedd yn cynnwys criw mawr, nifer o gyfranwyr enwog a bron i 100 o wahanol gyflawniadau terfynol – roedd angen i ni sicrhau bod pob manylyn wedi’i gynllunio’n fanwl. Nid yn unig i gadw pethau’n symud ond i sicrhau hefyd ein bod ni’n gallu cadw ein harferion gwyrdd yn effeithiol a rhoi lle blaenllaw iddyn nhw ym mhopeth a wnawn.
Felly rhoddodd y prosiect hwn esgus i ni roi ein cyhyrau ymwybodol o’r hinsawdd ar waith a sicrhau ein bod yn gwneud popeth posibl i gadw’r fam-ddaear yn hapus. O rentu/ailgylchu propiau, defnyddio cerbydau tracio trydan a dod o hyd i wisgoedd yn gynaliadwy, roedd y cynhyrchiad hwn yn dyst i’n hymrwymiad i gynaliadwyedd.
Er mwyn gwrthbwyso allyriadau na ellir eu hosgoi, buom yn cydweithio â rhaglenni olrhain a gwrthbwyso carbon sydd ag enw da fel AdGreen ac Ecologi, gan fuddsoddi mewn prosiectau sy’n hyrwyddo ynni adnewyddadwy, ailgoedwigo, a mentrau eraill sy’n cyfrannu at blaned iachach.
Ond cofiwch, nid un weithred yn unig yw hon. Mae’r dull hwn wedi’i ymgorffori yn ein DNA, felly mae unrhyw brosiect o unrhyw faint yn cael yr un driniaeth.