Mae casineb yn brifo Cymru
Llywodraeth Cymru.
Hysbyseb deledu
Cafodd dros 1,500 o droseddau casineb eu cofnodi yng Nghymru yn 2019/20.
A ninnau wedi cael y dasg o greu ffilmiau ar gyfer ymgyrch codi ymwybyddiaeth o beth yw troseddau casineb go iawn, buom yn gweithio’n agos gyda’r asiantaeth hysbysebu a marchnata SBW, i ddatblygu achosion o droseddau casineb go iawn yn hysbysebion teledu. Ehangwyd pob stori yn ffilm o achosion astudiaeth unigol.
Mae pum nodwedd allweddol wedi’u gwarchod gan gyfreithiau troseddau casineb: hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, ac anabledd. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys pob nodwedd, yn seiliedig ar straeon go iawn am ddioddefwyr troseddau casineb yng Nghymru.
Treuliwyd cryn amser yn datblygu sgript, naws weledol a sain y ffilm. Hefyd, fe ddaethon ni â chast enfawr ac amrywiol at ei gilydd, doniau lleol yn bennaf, er mwyn cyflwyno elfennau real iawn i’r prosiect. Roedden ni’n ymwybodol y gallai gorfod actio’r golygfeydd sbarduno atgofion annifyr i rai o’r cast, felly treuliwyd amser yn briffio’r actorion am gynnwys y golygfeydd hefyd. Ar fater lleoliadau, roedd modd i ni fanteisio ar y ffioedd fforddiadwy sydd ar gael i ni fel cwmni cynhyrchu fideo o Gaerdydd.
Gwyliwch y ffilm y tu ôl i’r llenni i weld sut daeth popeth i fwcwl.
Hefyd, fe fuon ni’n gweithio gyda ffotograffydd gydol y cynhyrchiad, gan sicrhau bod stamp gweledol cryf i’r ymgyrch o fri hon drwyddi draw.
Yn ogystal â’r hysbyseb deledu, fe wnaethon ni gynhyrchu cyfres o ffilmiau astudiaethau achos a oedd yn treiddio’n ddyfnach i bob un o’r pum nodwedd allweddol.
“Hard-working, creatively inspired and professional – On Par genuinely care about producing powerful films and content that will connect, move audiences and drive engagement.”
SBW Advertising
In addition to the TV Commercial, we produced a series of case study films that delved deeper into each of the five key characteristics.