Helpu Ni, Helpu Chi
GIG Cymru.
Hysbyseb deledu
O fferyllwyr ac unedau mân anafiadau, i linellau cymorth iechyd meddwl ac ymgynghoriadau ar-lein, mae sawl ffordd i gael mynediad i’r GIG yng Nghymru… Ein briff oedd cyfleu a chwmpasu pob dull mewn 30 eiliad fer.
Buom yn gweithio gydag asiantaeth cyfathrebu marchnata o Gaerdydd, Golley Slater, i gynhyrchu hysbyseb deledu a oedd yn cyfuno ffilmio byw a CGI. Hefyd, fe wnaethon ni ddefnyddio sgiliau Ewan Jones Morris, Cyfarwyddwr o Lundain a aned yng Nghymru, a ddaeth â gwerth degawd o wybodaeth am CGI, animeiddio a ffilmio byw i’r tîm. I gwblhau tîm ein breuddwydion, Stephen Thomas, ein ‘nerd’ CGI (fel y mae’n galw ei hun).
Mae’r saethau arnofiol enfawr yn y fideo yn pwyntio ein cymeriadau at yr holl lefydd gwahanol y gallan nhw gael mynediad i’r GIG. Fel gyda phopeth CGI ac wedi’i animeiddio, roedd angen i’r rhain asio’n ddi-dor yn ein fframiau neu byddai’r cysyniad yn methu. Felly, wrth i ni, Golley Slater ac Ewan anfon byrddau stori a dyluniadau yn ôl ac ymlaen, bu Stephen yn creu model prawf o’r saeth.
“Gyda sawl lleoliad a chast amrywiol, ffilmio gyda dronau, CGI, cyllideb gyfyngedig ac amserlen hynod o dynn, roedd cryn bwysau ar gwmni On Par. Ond fe wnaeth y tîm ei chwalu hi’n llwyr, gan gadw’r gwerthoedd cynhyrchu yn uchel a’r lefelau straen yn isel i gynhyrchu ffilm brydferth, effeithiol yr ydym ni, a’n cleientiaid, wrth ein bodd hefo hi.”
Golley Slater
Gyda chwe golygfa i’w saethu dros ddeuddydd, roedd angen i’r gwaith ffilmio hwn redeg fel watsh: roedd rhaid i’r pellteroedd rhwng lleoliadau fod yn fyr. Yn ffodus, mae bod yn gwmni cynhyrchu fideo yng Nghaerdydd o gymorth a bu modd i ni fanteisio ar dîm ffilm hynod ddefnyddiol Cyngor Caerdydd a’n helpodd i ddod o hyd i leoliadau fforddiadwy a hawdd eu cyrraedd.
Oherwydd natur y prosiect arbennig hwn, roedd y broses ôl-gynhyrchu yn pendilio rhwng ein golygydd a Stephen wrth i ni roi’r saethau yn eu lle. Gallai fod wedi bod yn broses gymhleth a llafurus, ond llwyddodd Stephen i anfon ffeiliau yr oedd modd eu slotio’n gyflym i DaVinci Resolve, gyda hynny’n caniatáu i ni fireinio’r elfennau gorffenedig er mwyn medru lleoli’r saethau yn y lle iawn.