Digartrefedd cudd
Shelter Cymru.
Hysbyseb deledu
Mae Shelter Cymru yn amcangyfrif bod 3,000 o bobl ifanc yn mynd yn ddigartref yng Nghymru y flwyddyn. Mae llawer mwy yn dod yn bobl ddigartref ‘cudd’, gan gysgu ar loriau a soffas ffrindiau.
Buon ni’n gweithio gyda’r asiantaeth marchnata a hysbysebu SBW, ar gyfer ymgyrch #digartrefeddcudd #hiddenhomlesness Shelter Cymru er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o bobl ifanc sy’n ‘syrffio soffas’, gan eu hannog i estyn allan a chael help.
Roedd angen i’r ffilm symud yn gyflym a bod yn gredadwy gyda stori glir, gref a fyddai’n taro deuddeg gyda’r gynulleidfa darged o bobl ifanc 16-24 oed. Fe greon ni hysbyseb ddwyieithog Cymraeg / Saesneg sy’n gosod y gwyliwr yn esgidiau rhywun sy’n dioddef digartrefedd cudd, gan wneud hyn yn benodol trwy saethu mewn arddull POV… ac roedden ni angen offer a hanner i gyrraedd y nod hwnnw.
Dangoswyd y ffilm ar y teledu gyda chryn waith targedu yn cael ei wneud drwy Sky Adsmart, S4C ac All4 – a phenllanw’r cyfan oedd ennill Gwobr Greadigol Drum Roses!
Fel rhan o’r ymgyrch fe wnaethon ni greu cyfres o raglenni dogfen byr hefyd – astudiaethau achos emosiynol – yn adrodd hanesion profiadau pobl go iawn o ddioddef digartrefedd cudd. Cafodd y ffilmiau hyn eu defnyddio ar draws y cyfryngau cymdeithasol fel rhan o’r ymgyrch ar-lein.
Cynhyrchwyd hysbyseb Spotify ddwyieithog hefyd, gan ddefnyddio troslais yr hysbyseb deledu. Roedd hyd a lled y cynnwys a gynhyrchwyd yn bosib diolch i ddoniau ein tîm mewnol – tîm sy’n caniatáu i ni ddarparu gwasanaethau cynhyrchu fideo llawn.
Diolch i’r ymgyrch, cafwyd rhai canlyniadau cyffrous a phendant – gan nid yn unig fodloni ein hamcanion CAMPUS ond rhagori arnyn nhw hefyd:
– Bron i 60,000 o ymweliadau â gwefan yr ymgyrch (yn erbyn targed o 50,000 o ymweliadau)
– 3,195 trosiad (canlyniad 320% yn erbyn nod o 1,000)
– 3 miliwn o argraffiadau cyffredinol o’r chwilio a’r hysbysebion arddangos yn unig (2.8 miliwn ohonyn nhw o fewn y gynulleidfa darged 18-24)
– Cafwyd ychydig dros 5 miliwn o argraffiadau diolch i’r strategaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gyrraedd bron i 1.9 miliwn o bobl rhwng 1 Ionawr a 24 Mawrth