Dogfen am fasnachu pobl
Tribe.
Ffilm a Theledu
Ffilm ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth fodern.
Brand maeth chwaraeon gydag ymrwymiad cryf i daclo caethwasiaeth fodern yw Tribe. Roedden nhw eisiau ffilm ddogfen i adrodd hanes bywyd go iawn goroeswr masnachu pobl, a ddaeth o hyd i ddihangfa drwy redeg pellteroedd hir.
Roedd bod yn anhysbys yn ystyriaeth fawr i’r ffilm hon. Doedd y goroeswr ddim am gael ei enwi na’i gynnwys yn y rhaglen ddogfen yn bersonol, felly fe benderfynon ni gastio actor a newid rhai manylion i warchod ei hunaniaeth.
Gan weithio gyda rhywfaint o wybodaeth gefndir, fe wnaethon ni lunio set o gwestiynau. Yna gofynnwyd y cwestiynau gan aelod o’r Tribe Freedom Foundation (cangen elusennol Tribe), sef rhywun yr oedd y goroeswr yn ymddiried ynddo, a recordiwyd yr ymatebion. O’r recordiad hwn, fe wnaethon ni ysgrifennu sgript y gallai actor ei pherfformio mewn cyfweliad ffug.
Fel gydag unrhyw ffilm, rydyn ni bob amser yn gweithio i wneud yn fawr o bob ceiniog o’r gyllideb. Mewn un diwrnod, fe wnaethon ni ffilmio’r olygfa gyfweld yn ogystal â golygfeydd ail-greu syml ond effeithiol. Roedden ni’n gallu gwneud i’r golygfeydd ail-greu hyn weithio drwy ddefnyddio llawer o saethiadau a thechnegau torri golygfeydd yn gyflym, fel y byddech chi mewn rhaglen ddogfen. Roedd gan y dull hwn ddwy fantais; yn gyntaf, roedd yn golygu y gallen ni wneud i leoliadau edrych fel llefydd eraill a gwneud i ecstras (h.y. tîm On Par) i edrych fel pobl eraill. Law yn llaw ag effeithiau sain arbennig, roedd y dull torri cyflym hefyd yn ychwanegu at deimlad anghyfforddus y ffilm a fyddai, gobeithio, yn adlewyrchu erchylltra’r stori. Mae’n enghraifft dda o sut y gall cyfyngiadau ffilmio gynorthwyo’r broses greadigol weithiau.
Fe wnaethon ni gadw’r criw ffilmio i ddim ond tri aelod a saethu gyda’n hoffer mewnol. Roedd ffilmio fel hyn yn golygu y gallen ni weithio’n chwim a defnyddio llawer o leoliadau mewn cyfnod byr. Roedd saethu’r holl ffilm yng Nghaerdydd yn help gan ein bod ni’n adnabod yr ardal yn dda ac yn gallu defnyddio lleoliadau di-nod i’r eithaf.
Fe wnaethon ni ddefnyddio gyfresi o luniau tebyg i olygfeydd trosedd er mwyn cyfleu’r amodau afiach y cafodd y goroeswr ei gadw yn erbyn ei ewyllys, ac er mwyn ychwanegu’r syniad o ymchwiliad agored yr heddlu.
Wrth olygu, fe benderfynon ni saethu siots y cyfweliad yn agos iawn, fel pe baem ni’n celu hunaniaeth y cyfrannwr. Er nad oedd angen gwneud hynny’n dechnegol, gan fod actor yn chwarae rhan y goroeswr, roedden ni’n teimlo ei fod wedi helpu i werthu elfen ddogfennol y ffilm.
Ffrwyth y gwaith oedd ffilm bwerus nad yw’n swil i ddangos natur graffig a gofidus y stori dan sylw, sef y ffordd orau o helpu pobl i ddeall realiti ffiaidd caethwasiaeth fodern. Enillodd y ffilm wobr am y ddogfen orau yng Ngŵyl Ddogfen Ryngwladol Cymru.