Louder Is Not Always Clearer
BBC.
Ffilm a Theledu
Ti’n gallu ‘nghlywed i – am beth twp i ofyn i ddyn Byddar!
Ganwyd Jonny Cotsen yn Fyddar. Wrth gael ei fagu mewn teulu clyw, yn gwisgo cymhorthion clyw a darllen gwefusau, roedd prin wedi ystyried ei hunaniaeth Fyddar ei hun. Roedd yn ei 40au erbyn iddo ddechrau archwilio beth oedd ystyr bod yn Fyddar.
Ymunodd Jonny â chwmni theatr Mr & Mrs Clark i greu darn o berfformiad yn adrodd ei stori gan ddefnyddio elfennau theatr gorfforol, dawns a chlyweledol. Gofynnwyd i ni gofnodi rhywfaint o ddatblygiad y sioe, taith yr oedden ni’n lwcus ac yn falch o’i dilyn.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y sioe a deithiodd i sawl lleoliad gyda phob tocyn yn cael ei werthu, gan gynnwys cyfnod yng Ngŵyl y Ffrinj yng Nghaeredin lle cafodd adolygiadau da, cafodd Jonny gyfle i wneud cais am nawdd gan Gyngor y Celfyddydau ar y cyd â chynllun ‘Culture in Quarantine’ y BBC a’r sefydliad celfyddydol, The Space. Diolch i’r arian hwn, datblygodd sioe Mr & Mrs Clark yn ffilm fer. Roedden ni ar ben ein digon pan ofynnodd Jonny i ni gynorthwyo.
Yn sgil cais llwyddiannus, buom yn gweithio gydag ymgynghorydd sgriptiau a’n helpodd i drawsnewid elfennau o’r sioe theatr ac ysgrifennu ambell olygfa newydd. Bu’n gymorth i greu sgript a oedd yn mynd â’r gwyliwr ar antur glyweledol ddifyr ac addysgol mewn amser.
Wedi’i saethu dros ddeuddydd hir ond hwyliog, buom yn paru delweddau gyda thestun mawr animeiddiedig, arddulliedig i droi’r sgript 15 tudalen yn ffilm hygyrch i gynulleidfaoedd Byddar. Cyfunwyd hyn â chynllun sain effeithiol a oedd yn helpu i osod cynulleidfaoedd yn sgidie Jonny.
“Diolch i On Par am greu lle diogel a chroesawgar. Roeddech chi’n deall pa mor bwysig oedd hi fod y ffilm yn gwbl hygyrch, roedd yn brofiad anhygoel.”
Jonny Cotsen
Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ar BBC iPlayer ac aeth ar daith o amgylch y byd, o Efrog Newydd i Sydney. Mae wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys gwobr am y Sain Orau yng Ngwobrau Ffilmiau Byrion Prydain gyda Jonny hefyd yn cipio’r wobr am yr Actor Gorau yn y Deaf Fest.