Dyw hi byth yn rhy gynnar i gael help
Llywodraeth Cymru.
Hysbyseb deledu
Dyw hi byth yn rhy gynnar neu’n rhy hwyr i gael help
Gofynnwyd i ni gynhyrchu dwy hysbyseb deledu 30 eiliad a ffotograffiaeth ymgyrchu ar gyfer prosiect ar y cyd rhwng Shelter Cymru a Llywodraeth Cymru. Daeth cwmni SBW, asiantaeth hysbysebu o Gaerdydd a Bryste, atom gyda dau gysyniad yn tynnu sylw at sut y gallai rhywun yn hawdd gael eu hunain yn ddigartref a sut y gallent estyn allan i Shelter Cymru am help. Roedd angen naws ddogfennol i’r hysbysebion er mwyn ddwysáu’r ymdeimlad o realaeth.
Mae’r ddwy hysbyseb yn cynnwys cymeriadau sydd, ar ôl bod yn ddigartref, yn gofyn am gymorth gan Shelter Cymru. Mae Stori Alan yn cynnwys dyn a gollodd ei gartref ar ôl cael ei ddiswyddo. Mae Stori Sarah yn cynnwys menyw a’i merch a ddaeth yn ddigartref ar ôl dioddef cam-drin domestig. Roedd y bwrdd stori yn dangos y ddwy yn symud o dŷ i dŷ ar ôl i Sarah gael ei phledu a’i phoeni gan negeseuon testun sarhaus gan ei phartner. Y syniad wedyn oedd ailddirwyn y ffilm i bwynt cynharach yn y fideo a’r stori, gan ‘ymyrryd’ cyn i bethau fynd yn rhy bell i Sarah y tro hwn. Dyna pryd mae’n ffonio Shelter Cymru yn lle gadael i’w sefyllfa gartref fynd allan o reolaeth, a’r ddwy yn symud i gartref newydd.
Saethwyd popeth â llaw i helpu i ychwanegu at y teimlad dogfennol a defnyddiwyd sawl lleoliad i roi ymdeimlad bod Sarah yn symud o gwmpas yn gyson. Roedden ni wrth ein bodd gyda bwrdd stori SBW, ond ein her gyntaf oedd meddwl am ffordd o ddangos y ffilm yn ailddirwyn heb fod yn gawslyd – a heb gerddoriaeth Benny Hill! Felly fe wnaethon ni amrywio’r bwrdd stori i gynnwys golygfeydd penodol fyddai’n edrych yn dda o’u chwarae am yn ôl, ac a fyddai’n gwneud yn glir bod y ffilm yn ailddirwyn. Roedd un o’r golygfeydd hyn yn cynnwys Sarah mewn gofid ac yn colli deigryn, a fyddai wedyn yn rholio’n ôl i fyny ei boch wrth ailddirwyn yr olygfa – haws dweud na gwneud!
Gyda’r olygfa hon fe ddysgon ni fod colli un deigryn, teilwng o olygfa ffilm, yn gryn dasg i actor. Yn ffodus, roedd ein hartist gwallt a cholur yn gallu dod o hyd i ddiferion llygaid a wnaeth y rhan fwyaf o’r gwaith caled, ond roedd hi’n her cael y deigryn perffaith – nid llif o ddagrau, ond un deigryn digon mawr – fyddai’n disgyn ar y cyflymder cywir. I olygfa mor fyr, fe gymerodd hi dipyn o amser i gael y deigryn yn iawn, ond talodd yr ymdrech ar ei ganfed – fe weithiodd yn berffaith, i’r ddau gyfeiriad.
Gan mai ymgyrch ddwyieithog oedd hon, fe wnaethon ni ddwy fersiwn o bob hysbyseb: un yn Gymraeg ac un yn Saesneg. Ar y cyfan roedden ni’n teimlo bod yr hysbysebion wedi cael effaith emosiynol ac wedi cyflawni eu nod. Roedd SBW, Shelter Cymru a Llywodraeth Cymru oll yn hapus gyda’r canlyniadau.
Gwyliwch Stori Alan hefyd, y ffilm arall yn y gyfres hon.