Stopio cosbi corfforol
Llywodraeth Cymru.
Hysbyseb deledu
Dyma sŵn newid
Roedd 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru; o’r dydd Llun hwnnw ymlaen, cafodd cosbi plant yn gorfforol ei wneud yn anghyfreithlon. Ein tasg ni oedd hysbysu’r genedl o’r newid hwn yn y gyfraith.
Roedd y cleient yn awyddus i’r ymgyrch fod yn un bositif, yn hytrach na bod y neges yn cael ei cholli braidd yn nifrifoldeb y mater. Fe fuon ni’n gweithio gydag asiantaeth hysbysebu SBW, sydd â’u cartref yng Nghaerdydd a Bryste, i greu dwy hysbyseb deledu. Byddai’r naill yn cael ei ryddhau cyn i’r gyfraith newid, a’r llall wedi i’r gyfraith ddod i rym.
Gwyliwch y fideo cyn i’r gyfraith newid isod.
Cafodd y ddau fideo eu saethu dros gyfnod o wythnos. Aethom ati i gastio grŵp amrywiol o deuluoedd er mwyn helpu i adlewyrchu’r genedl. Er bod y rhan fwyaf o’r gwaith ffilmio yn ardal Caerdydd oherwydd cyfyngiadau amser, cawsom un olygfa ar draeth hardd y Bermo yng Ngwynedd, a dewiswyd y rhan fwyaf o’n lleoliadau eraill yn fwriadol er mwyn bod yn amhenodol o ran lleoliad.
Ymunodd y ffotograffydd, Tom Farmer, â ni gydol y cynhyrchiad, gan gymryd ffotograffau cysylltiedig ar gyfer ymgyrch ‘allan o’r cartref’.
Bu’r ymgyrch yn llwyddiant, ac enillodd Fedal Efydd yng Ngwobrau Creadigol Drum Roses.