Gwyl y Dyn Gwyrdd
S4C
Ffilm a Theledu
Bachwch eich esgidiau glaw, mae’n bryd mynd i’r ŵyl.
Os ydych chi’n ‘nabod On Par, yna byddwch chi’n gwybod ein bod ni’n dwlu ar ein ffrindiau yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ac wedi bod yn gwneud ffilmiau iddyn nhw ers blynyddoedd. Felly pan ddywedodd ein ffrindiau eraill yn S4C eu bod nhw eisiau rhaglen am yr ŵyl roeddem yn fwy na pharod i gamu i’r bwlch hwnnw.
Roedd y naill a’r llall yn chwilio am rywbeth gyda theimlad sinematig a thipyn o steil, er mwyn iddo fod yn wahanol i raglenni am wyliau yn y gorffennol – rhywbeth sy’n cyd-fynd yn berffaith â’n sgiliau ni. Daeth yr awr hon o deledu â Gŵyl y Dyn Gwyrdd i gartrefi cynulleidfaoedd (heb y portaloos) a dangos rhai o’r artistiaid gorau sydd gan Gymru a’r byd i’w cynnig.
Dros bedwar diwrnod, gyda chriw o dri deg a mwy, fe wnaethon ni gipio pob agwedd ar yr ŵyl o’r prif berfformwyr i’r gwerthwyr bwyd. Fe wnaethom olygu ar ac oddi ar y safle wrth i’r ŵyl fynd rhagddi er mwyn darparu’r rhaglen gyfan yn gynt na’r gwynt, gan ddarlledu llai nag wythnos ar ôl i’r ŵyl ddod i ben – gyda chanmoliaeth uchel gan y cynulleidfaoedd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.