#ShapeYourStory
Ymddiriedolaeth y GIG.
Gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
Since the Covid pandemic we’ve made a number of recruitment films for various NHS health boards – it was a humbling experience to work with NHS nurses in London.
Ers pandemig Covid rydyn ni wedi gwneud nifer o ffilmiau recriwtio ar gyfer byrddau iechyd gwahanol y GIG – roedd yn brofiad sobreiddiol gweithio gyda nyrsys y gwasanaeth iechyd yn Llundain.
Buom yn cydweithio ag asiantaeth hysbysebu SBW o Gaerdydd a Bryste, i gynhyrchu un ffilm arwr a phedair ffilm hyb ar gyfer Bwrdd Iechyd Barts yn Llundain, gyda’r nod o recriwtio mwy o nyrsys gofal critigol. Cysyniad y ffilm arwr oedd clywed lleisiau nyrsys go iawn dros bortreadau a lluniau ohonyn nhw wrth eu gwaith ar y wardiau.
Er nad oedd bwriad i’r ffilmiau fod fel hysbysebion teledu, roedden ni am roi cymaint o’r gyllideb ag y gallen ni ar y sgrin, a oedd yn golygu llogi’r un camera safonol ag y bydden ni ar gyfer hysbyseb.
Mae angen criw mwy o faint fel rheol ar y math hwn o offer, ond roedd rhaid i ni fod mor ddarbodus â phosib wrth saethu, nid yn unig oherwydd y gyllideb ond hefyd oherwydd natur gwaith ffilmio mewn ysbytai go iawn – allwch chi ddim llusgo criw ffilmio mawr o amgylch ysbyty prysur ar ddiwedd pandemig.
Roedd angen i ni fod ar flaena ein traed hefyd; mae nyrsys yn bobl brysur felly roedd rhaid i ni saethu yn y fan a’r lle. Roedden ni wedi paratoi ar gyfer ein cyfweliadau ac ar binnau wrth ddisgwyl i’r nyrsys gyrraedd, dim ond i ddarganfod eu bod wedi’u galw i argyfwng. Wrth gwrs, mae hyn yn rhan o’r drefn wrth weithio gyda staff ar ddyletswydd yn y GIG.
Yr her fawr arall o saethu yn ysbytai Llundain oedd maint y ddinas: roedd ffilmio mewn dau ysbyty y dydd, am ddeuddydd, ynghyd â theithio o le i le a llwytho i mewn ac allan o’r ysbytai yn golygu bod pob eiliad yn cyfri – yn ffodus, diolch i’n profiadau cyfunol o wneud ffilmiau dogfen, roedd modd inni ymateb yn gyflym a dod o hyd i atebion creadigol a oedd yn arbed amser.
Wrth greu sawl ffilm ar gyfer y prosiect hwn, fe wnaethon ni rannu’r broses ôl-gynhyrchu rhwng golygyddion, gydag un golygydd yn mynd i’r afael â’r ffilm arwr a’r llall yn gweithio ar y pedair ffilm hyb. Roedd tîm creadigol SBW eisiau i ffilmiau’r hyb fod â theimlad “llyfr stori” gan ddechrau gydag albwm lluniau yn agor i ddatgelu lluniau symudol o’r nyrsys a’u hysbyty.
Er gwaetha’r heriau o weithio mewn ysbytai go iawn yn Llundain gyda dim ond criw bach, roedd siarad gyda’r nyrsys yn brofiad sobreiddiol ac rydyn ni’n teimlo’n freintiedig ein bod wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn i’r GIG.