The Jean Makers
Hiut Denim.
Gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
Rydyn ni’n dwlu ar Hiut Denim. Rydyn ni’n berchen ar sawl pâr o’u jîns, ond rydyn ni hefyd wedi ein hysbrydoli’n fawr gan eu stori a’u hathroniaeth. Yn yr un ffordd ag y maen nhw’n dyheu am wneud y jîns gorau yn y ffordd orau bosib, rydyn ni hefyd yn dyheu am arbenigo ym maes creu fideos o fri mewn ffordd deg a thryloyw – ac rydyn ni’n credu ein bod ni’n gwneud jobyn gwych ohoni.
Felly pan oedden ni’n bwriadu gwneud rhaglen ddogfen fel rhan o’n cyfres Lost Industry, nhw oedd ar frig ein rhestr – ac roedden ni wrth ein boddau pan gytunodd Hiut Denim i gydweithio. Y cynllun oedd adrodd hanes creu cwmni Hiut. Ar gyfer hynny, roedd angen mynd ymhellach yn ôl mewn amser, pan oedd Aberteifi yn gartref i ffatri a oedd yn cynhyrchu 35,000 o jîns yr wythnos.
Aethon ni draw i Aberteifi a threulio diwrnod yn yr hen ffatri yn ffilmio gyda Claudio, y torrwr jîns a’r sylfaenydd, David Hieatt. Darparodd Claudio y stori gefndir emosiynol, fel un a fu’n gweithio yn yr hen ffatri cyn iddi gau. Ychwanegodd David at hyn, gan sôn am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a sut roedd am weld y dref yn gwneud jîns gwych unwaith eto.
Y ffilm olaf yw un o’n cynyrchiadau fideo mwyaf poblogaidd a chafodd ei rhyddhau trwy gylchlythyr poblogaidd Hiut Denim.