Tree Of Life
Clogau.
Hysbyseb deledu
Beth ydych chi’n ei wneud pan fydd angen coeden llawn dail, mewn lle delfrydol, ganol gaeaf?
Dyma roedd ein cynhyrchwyr yn cnoi cil yn ei gylch pan ofynnodd S3 Advertising i ni greu hysbyseb deledu Clogau ar gyfer Dydd San Ffolant. Byddai’r ffilm yn cynnwys teulu Clogau, gan gynnwys y cyflwynydd Gethin Jones, a byddai’r goeden yn rhan hanfodol gyda’r ymgyrch yn seiliedig ar gasgliad ‘Tree of Life’ Clogau. Roedd angen clamp o hysbyseb â chymeriad.
Fodd bynnag, dim ond coed bytholwyrdd rydych chi’n dueddol o’u gweld yng Nghaerdydd a’r cyffiniau yn ystod y gaeaf – sy’n sgrechian ‘Dolig! – rhywbeth nad oedd ein cleient, na ni fel cwmni cynhyrchu fideo, ei eisiau ar gyfer hysbyseb San Ffolant mewn gwirionedd!
Doedd fawr o amser i ffeindio’r lleoliad delfrydol, a’r dasg o brynu coeden i mewn yn ddrud a rhy gymhleth o lawer, felly penderfynwyd mai’r dewis gorau fyddai ychwanegu coeden CGI yn y broses ôl-gynhyrchu. Drwy wneud hyn, roedd modd i ni ddefnyddio unrhyw goeden o’n dewis, gan ffurfweddu’r dail, y rhisgl, ei maint a’r canghennau ac ati yn ôl y gofyn.
Ar ôl profion saethu ac integreiddio coeden fel cyfeirbwynt, fe benderfynon ni ar goeden dderw i symboleiddio hirhoedledd, cryfder, sefydlogrwydd a pharhad– pob un yn symbol o’r hyn a oedd wedi helpu’r teulu i lwyddo. Yn ystod y gwaith ffilmio, defnyddiwyd stondinau a pheli tenis fel ein coeden ffug, gyda’r cyfarwyddwr yn egluro wrth y cast a’r criw sut y byddai’n edrych yn y pen draw.
“Am waith anhygoel ar yr hysbyseb, mae’n edrych yn hyfryd!”
S3 Advertising
Dechreuodd y gwaith o ddifrif yn y stiwdio olygu. Gan weithio gyda Stephen Thomas, sy’n ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn dipyn o ‘nerd’ CGI, aethpwyd ati i fireinio dyluniad y goeden a’i lleoliad yn yr olygfa. Roedd rhaid iddi edrych yn real ac ymdoddi’n naturiol i’r olygfa – neu byddai’r holl syniad yn methu. Fel y gallwch chi ddychmygu, cafodd ein cyfarwyddwr ambell noson ddigwsg – ond daeth y cyfan at ei gilydd yn y pen draw.
Diolch i berfformiad cryf gan deulu Clogau, galluoedd CGI Stephen a graddau lliw addas, daeth popeth ynghyd i greu ffilm emosiynol a oedd wrth fodd yr asiantaeth a’r cleient.