Belong to Something
University of South Wales.
Hysbyseb deledu
Roedd briff hysbyseb deledu Prifysgol De Cymru 2023 yn canolbwyntio ar ddyrnaid o gynfyfyrwyr yn rhannu cyngor a straeon am eu bywyd yn y brifysgol. Nodwyd bod y gynulleidfa darged, y Genhedlaeth Z yn bennaf, yn fwy craff a chlyfar nag erioed, felly nod yr hysbyseb oedd cyfleu’r ymdeimlad o onestrwydd a dilysrwydd.
Fyddai’r un ohonon ni yma heddiw oni bai am y Brifysgol, a gan mai cyn-fyfyrwyr Prifysgol De Cymru yw’r rhan fwyaf o aelodau ein cwmni cynhyrchu fideos, roedden ni’n gallu uniaethu â’r hyn yr oedd PDC am ei gyflawni, ac yn gallu gweld pa effeithiau cadarnhaol y gallai’r ymgyrch hon ei chael ar y Brifysgol, Caerdydd a de Cymru.
“Mae On Par wedi creu hysbyseb deledu eithriadol, sydd wedi cael ymateb cadarnhaol dros ben.”
Prifysgol De Cymru
Roedden ni am bwysleisio bod Prifysgol De Cymru yn rhoi’r holl adnoddau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i dorri trwodd i’r diwydiant o’u dewis, heb orfod gwerthu’r peth yn ormodol. Roedd rhaid i ni droedio’n ofalus i sicrhau ein bod ni’n taro’r cydbwysedd cywir.
Gan adeiladu ar ddelfrydau agored a gonest y briff, ein cynnig oedd ffilmio’r cyfweliadau o safbwynt ‘y tu ôl i’r llenni’ mwy neu lai lle byddai meicroffonau, goleuadau ac ymylon cefndiroedd i gyd yn y ffrâm ac elfennau mewnol yr hysbyseb ei hun yn amlwg, er mwyn ychwanegu at yr elfen real a dilys. Er mwyn i hyn deimlo’n real a gweithio fel hysbyseb deledu yr un pryd, buom yn gweithio gyda’r cyfranwyr i greu sgript o atebion parod yn hytrach na bwydo llinellau iddyn nhw.
Roedd y cyfan yn gyfle inni greu hysbyseb deledu a oedd yn bodloni briff y cleient a mwy. Yn ogystal â’r hysbysebion 30 a 60 eiliad, fe wnaethon ni gynhyrchu llawer o ffilmiau hirach ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol a oedd yn canolbwyntio ar bob un o’r cyn-fyfyrwyr dan sylw. Hefyd, tynnwyd cyfres o luniau sydd, ynghyd â dyfyniadau o’r cyfweliadau, wedi’u defnyddio mewn ymgyrch gyhoeddusrwydd ddwyieithog (“Allan o’r Cartref”).
“Roedd eu negeseuon cyfathrebu, eu sylw i fanylder a’u rheolaeth o’r prosiect yn golygu bod yr hysbysebion wedi’u cyfleu’n dda o fewn y dyddiad cau a’r gyllideb.”
Prifysgol De Cymru
Gydag On Par yn arwain ar yr holl elfennau creadigol, cynhyrchu a chyflenwi, daeth yr ymgyrch hon yn gyfle gwych i ni redeg ein cynhyrchiad carbon-niwtral cyntaf, wedi’i gyfrifo a’i ardystio gan AdGreen – rhywbeth y byddwn yn ei wneud ar gyfer pob hysbyseb o hyn ymlaen.
Hefyd, roedden ni’n teimlo’n gryf ein bod am gynnwys myfyrwyr presennol Prifysgol De Cymru wrth gynhyrchu’r hysbyseb, gan greu 11 o swyddi dan hyfforddiant i fyfyrwyr gysgodi aelodau’r criw. Gwyliwch y ffilm y tu ôl i’r llenni hon a saethwyd gan y myfyrwyr, i weld sut hwyl gawson nhw.