Skip to content

DATGANIAD CENHADAETH.

RYDYN NI’N YMDRECHU I FOD YN GWMNI CYNHYRCHU FFILMIAU CYNALIADWY, TOSTURIOL A BLAENGAR. WEDI YMRWYMO I LEIHAU EIN HEFFEITHIAU CYNHYRCHU AMGYLCHEDDOL, RYDYN NI’N MALIO AM BOBL, AM YR HYN RYDYN NI’N EI WNEUD A SUT RYDYN NI’N EI WNEUD O.

Hoffem newid meddyliau gyda straeon a bod y cwmni cynhyrchu fideo cynaliadwy gorau yn y DU. Ers dros ddegawd rydyn ni wedi dewis llwybr â ffocws penodol gan nad yw’r model ffatri yn gynaliadwy i ni. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydyn ni fel tîm a sut rydyn ni’n gweithio: Mae Cynaliadwyedd, Tosturi, Hyblygrwydd, Llesiant, Anhunanoldeb a Chydweithio yn flaenoriaeth.

Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi meithrin ffordd o weithio sy’n adlewyrchu’r gwerthoedd hyn ac mae wedi dod yn un o’r pethau sy’n gosod ein tîm a’n cwmni ar wahân. Rydyn ni ar ein gorau pan fydd pawb – ein cleientiaid, ein criw a ni ein hunain – yn teimlo’n llawn ffocws, yn hapus a sicr.

EIN DIWYLLIANT.

Rydyn ni’n dîm modern, gofalgar, blaengar. Dydyn ni ddim yn credu mewn datblygu syniadau mewn gwagle.  Rydyn ni’n ffynnu ar gydweithredu, lle mae pethau gwych yn digwydd. Mae pobl yn gwerthfawrogi tosturi ein tîm mewnol a’u gallu i gyflwyno gwaith o’r radd flaenaf sy’n taro’r marc dro ar ôl tro.

Nid damwain a hap yw bod pobl yn mwynhau gweithio gyda ni. Rydyn ni ar ein gorau pan fydd pawb – ein cleientiaid, ein criw a ni ein hunain – yn teimlo’n llawn ffocws, yn hapus a sicr. Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi meithrin ffordd o weithio sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd, rhywbeth sydd wedi ein gosod ar wahân i dimau a chwmnïau eraill. Dyma rai o’r penderfyniadau rydyn ni wedi’u gwneud fel cwmni sy’n caniatáu i ni wneud gwaith gwych:

  • Carbon niwtral. Ymhlith pethau eraill, mae ein swyddfeydd yn rhedeg ar 100% o ynni adnewyddadwy ac rydyn ni’n cyfrifo holl olion traed carbon ein gwaith masnachol a darlledu. Mae cynaliadwyedd yn rhywbeth rydyn ni’n malio amdano go iawn, ac fel dysgwyr brwd, rydyn ni’n adolygu hyn yn barhaus.
  • Cyflogwr wythnos waith 4 diwrnod. Ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol, mae’n tîm ni’n gweithio 4 diwrnod yr wythnos ar gyflog sy’n cyfateb i wythnos waith 40 awr. Mae’r cydbwysedd iachus hwn rhwng bywyd a gwaith yn caniatáu tîm hapusach – ac mae tîm hapusach yn golygu amgylchedd gwaith mwy creadigol a chadarnhaol. I ni ac i chi.
  • Eiddo i’r gweithwyr. Ar hyn o bryd, mae pedwar o bob pump o’r tîm yn berchen ar gyfranddaliadau yn y busnes, felly pan fyddwch chi’n gweithio gyda ni, rydych chi’n cael y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau. Gyda buddsoddiad personol yn y cwmni, rydyn ni’n poeni am bob manylyn ac yn ymrwymo i lwyddiant – eich llwyddiant chi a’n llwyddiant ni.
  • Cymorth iechyd meddwl. Mae gan bob aelod o’n tîm fynediad at gymorth iechyd meddwl proffesiynol. Fel pobl greadigol, ein meddyliau yw ein hased pennaf felly mae cadw’r meddwl yn y cyflwr gorau posib yn hollbwysig er mwyn sicrhau’r gweithle iachaf posib.

EIN TÎM A’N STRWYTHUR ADRODD.

Mae ein diwylliant cefnogol, hamddenol a chyfartal yn rhoi ymddiriedaeth a chyfrifoldeb yn ein tîm. Rydyn ni’n hybu a hyrwyddo pobl sy’n rhannu ein gwerthoedd, sy’n meddwl drostyn nhw eu hunain ac yn mentro fel cwmni o un. Os oes problem, rydyn ni’n mynd i’r afael â hi. Mae pawb yn tynnu eu pwysau ac yn helpu i gyflawni pob math o ddyletswyddau.

Y diwylliant hwn yn ogystal â’n maint a’n sgiliau, yw ein cryfder ni. Mae gennym ni ddealltwriaeth agos-atoch o’r holl gamau cynhyrchu – ac mae’n ddiwylliant rydyn ni’n falch ohono – ond rydyn ni’n cydnabod pwrpas strwythurau adrodd traddodiadol hefyd. Mae gennym ni rolau a chyfrifoldebau penodol o fewn y cwmni, ond dydyn ni ddim yn gwbl haearnaidd. Wedi’u hamlinellu isod, maen nhw’n seiliedig ar rolau traddodiadol yn y diwydiant ffilm, ac yn cynnwys ambell rôl ychwanegol hefyd fel Swyddog Amgylcheddol…


  • Toby Cameron: Cyfranddaliwr, Sylfaenydd/Cyfarwyddwr Cwmni, Uwch Gynhyrchydd.
  • Andrew Gough: Cyfranddaliwr, Golygydd, Cyfarwyddwr.
  • Sam Jordan-Richardson: Cyfranddaliwr, Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth, Golygydd, Cyfarwyddwr.
  • Simon Pax McDowell: Cyfranddaliwr, Cynhyrchydd, Swyddog Amgylcheddol.
  • Ren Faulkner: Gweithiwr, Saethydd, Golygydd, Cyfarwyddwr.

POLISÏAU.

Rydyn ni’n adolygu a diweddaru ein polisïau’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol diweddaraf, ac yn adlewyrchu gwerthoedd a diwylliant ein cwmni.

  • Iechyd a Diogelwch
  • Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
  • Polisi Amgylcheddol
  • Iechyd Meddwl a Lles
  • Llawlyfr Gweithwyr (Cod Moeseg, Bwlio ac Aflonyddu, Strwythur Adrodd, Ymddiswyddo a Therfynu Swydd, Buddion, Adolygiadau a Datblygu).