Ffasiwn Cynaliadwy
Work Shy.
Gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Work Shy o’r cychwyn cyntaf. Dyma un o frandiau ffasiwn cynaliadwy cyntaf y genedl, ac mae eu siacedi’n edrych yn anhygoel – mae gan ein tîm ni gasgliad eang rhyngddyn nhw!
Fel rhan o’r broses ffilmio, fe wnaethon ni gydweithio â nhw a’r ffotograffydd, Tom Farmer, i gynnull cast ifanc amrywiol er mwyn lansio detholiad o siacedi amryliw llachar. Manteisiwyd ar gyfoeth o leoliadau gwych Caerdydd hefyd.
“Mae gan On Par chwaeth arbennig, mae popeth maen nhw’n ei wneud yn edrych mor cŵl. Maen nhw’n cyflwyno egni cynnes a chadarnhaol i bob prosiect.”
Work Shy
Wedi’i saethu dros ddiwrnod heulog o hydref gyda chriw bach, cyfunodd ein symudiadau camera egnïol â chast hamddenol braf i greu ffilm hyrwyddo sy’n crynhoi hanfod Work Shy.