FIDEOS AROBRYN WEDI’U CREFFTIO GYDAG ANGERDD.
O’R EGIN SYNIAD I’R GWAITH GORFFENEDIG, RYDYN NI’N RHOI SYLW A GOFAL HAEDDIANNOL I’CH PROSIECT.
Gweithredu ar Hinsawdd Cymru
Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth
Busnes Cymru
Yn helpu i adeiladu busnes
NHS Wales
Help Us Help You
University of South Wales
Belong to Something
WeCare Wales
Be The Difference
Clogau
Tree Of Life
University of South Wales
Creative Student Stories
Green Man
Festival Highlights
MAE’N SYML. RYDYN NI’N MALIO.
Mae ein cwmni cynhyrchu fideo yn gwbl angerddol dros greu cynnwys pwrpasol o’r radd flaenaf. Nid ffatri ydyn ni – ond tîm medrus o grefftwyr ymroddedig. Rydyn ni’n rhoi blaenoriaeth i onestrwydd, tegwch a chydweithio, ac mae ein dull o weithio yn sicrhau bod pawb yn mwynhau’r broses. Rydyn ni’n malio am ein gwaith, ein cydweithwyr a’r blaned.
CWRDD Â’R CRIW.
Rydyn ni’n griw amryddawn sy’n cynnwys cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, gweithredwyr camera, golygyddion a dylunwyr sain o fri. Ein maint a’n sgiliau yw ein cryfder – mae gennym ddealltwriaeth drylwyr o bob cam o’r broses gynhyrchu.
MWY NA DIM OND CLEIENTIAID.
Rydyn ni wedi cydweithio ag amryw byd o gleientiaid dros y degawd diwethaf, gan ddefnyddio ein profiad a’n gwybodaeth i adrodd straeon mewn ffyrdd unigryw. Mae ein cleientiaid yn gwerthfawrogi ein dull cydweithredol a’n sylw at fanylder, ein chwaeth a’n hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol.
Yn syml, mae pobl wrth eu bodd yn gweithio gyda ni.